Nodiadau Apelio
Mae gennych hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor i wrthod eich her yn erbyn y gosb. Defnyddiwch y ffurflen hon i apelio i'r Dyfarnydd yn y Tribiwnlys Cosbau Traffig. Cyflwynwyd y ffurflen hon gan y Tribiwnlys Cosbau Traffig ac nid y cyngor. Mae Dyfarnwyr y Tribiwnlys Cosbau Traffig yn trin apeliadau yn erbyn cosbau a roddwyd am dorri rheolau parcio neu lonydd bysiau gan yr awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr sydd wedi cael hawliau gorfodaeth sifil (heblaw awdurdodau Llundain). Mae'r Dyfarnydd yn gyfreithiwr, yn annibynnol o'r cyngor ac wedi'i b/phenodi i benderfynu ar apeliadau yn erbyn cosbau parcio.
Ar gyfer Rhybuddion Talu Cosb a gafodd eu cyflwyno ar neu ar ôl 31 Mawrth 2008, mae'r Ddeddf Rheoli Traffig a'i Rheoliadau cysylltiedig yn berthnasol. Mae Deddf Traffig Ffordd 1991 yn berthnasol i Rybuddion Talu Cosb a gafodd eu cyflwyno cyn y dyddiad hwnnw.
Doed dim ffî am gyflwyno apêl. Os na fyddwch yn apelio nawr chewch chi ddim cyfle eto i herio'r gosb. Dim ond ychydig o amser sydd gennych i apelio. Rhaid i'r Tribiwnlys dderbyn y ffurflen cyn diwedd cyfnod o 28 diwrnod o pan gawsoch chi'r Rhybudd Gwrthod gan y cyngor. Cymerir eich bod wedi'i dderbyn ddau ddiwrnod gwaith ar ôl dyddiad y Rhybudd Gwrthod.
Anaml y dyfernir costau ac mae'r symiau hynny'n fychan. Dim ond os yw'r Dyfarnydd o'r farn fod parti wedi ymddwyn yn ddi-hid, yn flinderus neu'n hollol afresymol y dyfernir costau.
Yr Apelydd
Dim ond y person y cyfeiriodd y cyngor y Rhybudd Gwrthod ato sy'n gallu apelio. Gall y person awdurdodi rhywun arall i gwblhau'r ffurflen ar ei ran ond dylid nodi'r person y cyfeiriodd y cyngor y Rhybudd Gwrthod ato bob amser fel yr apelydd ar y ffurflen hon.
Peidiwch â rhoi enw cwmni oni bai bod y cyngor wedi cyfeirio'r Rhybudd Gwrthod at y cwmni hwnnw. Os ydych yn apelio ar ran cwmni, rhowch eich enw chi er mwyn i'r Tribiwnlys allu cyfathrebu gyda chi.
Math o Wrandawiad
Nodwch eich dewis o'r math o wrandawiad ar y ffurflen. Bydd gwrandawiad personol yn cael ei gynnal o flaen y Dyfarnydd. Gwrandawiad ffôn yw galwad dwy neu dair ffordd sy'n cael ei threfnu gan y Tribiwnlys. Mewn gwrandawiad post dim ond y dogfennau y bydd y Dyfarnydd yn eu hystyried, heb i'r partïon fod yn bresennol, ac anfonir y dyfarniad drwy'r post. Mae'r gwrandawiadau'n anffurfiol a fyddwch chi ddim angen cyfreithiwr i'ch cynrychioli.
Mae gennych chi hawl i wrandawiad personol. Trefnir gwrandawiad personol hefyd os bydd y cyngor yn gofyn am un neu os yw'r Dyfarnydd o'r farn y byddai'n addas. Os byddwch yn nodi dymuniad i gael gwrandawiad ffôn nid yw'r Tribiwnlys yn gwarantu y bydd yn gallu gwneud hynny. Bydd y Dyfarnydd yn penderfynu a yw eich achos yn addas ai peidio ar gyfer gwrandawiad ffôn. Os byddwch yn gofyn am wrandawiad ffôn, mae'n rhaid i chi roi rhif i'r Tribiwnlys ei ffonio.
Os byddwch yn dewis gwrandawiad personol, gallwch nodi lle a pha bryd yr hoffech ei gael. Nid yw'r Tribiwnlys yn gwarantu y bydd yn gallu cyfarfod â'ch dymuniadau ond bydd yn eu hystyried wrth drefnu'r cyfarfod. Fel arfer, gellir trefnu gwrandawiad yn unol â'ch dymuniad. Fodd bynnag, bydd y man y bydd eich gwrandawiad yn cael ei restru ar ei gyfer yn dibynnu ar ble sydd ar gael, a yw'r cyngor yn dymuno bod yn bresennol ac ar unrhyw fater arall y mae'r Dyfarnydd o'r farn sy'n berthnasol.
Anghenion Arbennig
Gellir mynd â chadair olwyn i bob un o'r mannau lle cynhelir gwrandawiadau ac mae dolen glywed ar gael. Os oes gennych anghenion arbennig eraill, efallai y gall y Tribiwnlys fod o gymorth.
Seiliau'r apêl
Y rhain yw'r UNIG seiliau y gall y Dyfarnydd eu defnyddio i ganiatáu apêl
(mae'r seiliau wedi'u nodi gyda * yn berthnasol mewn achosion lle cafod y Rhybudd Talu Cosb ei roi ar neu ar ôl 31 Mawrth 2008 yn unig).
Nodwch ar y ffurflen seiliau'r apêl (A i I isod) yn yr adran gyda'r teitl "Seiliau'r Apêl). Os nad ydych yn sicr pa sail sy'n berthnasol gallwch ddal i apelio ac egluro'ch achos wrth y Dyfarnydd.
A. Ni ddigwyddodd y tramgwyddiad honedig.
E.e. ni ddigwyddodd y tramgwyddiad fel y datgenir ar y Rhybudd Talu
Cosb. Byddai hyn yn cynnwys anghydfod ynghylch arwyddion.
B Mae'r gosb yn fwy na'r swm sy'n berthnasol o dan amgylchiadau'r achos.
Mae taliadau cosb wedi'u pennu gan y gyfraith ac mae'r gosb y gofynnir i chi ei thalu am y swm anghywir.
C. *Bu amhriodoldeb gweithdrefnol ar ran y cyngor.
Nid yw'r cyngor wedi cydymffurfio gyda Deddf Rheoli Traffig 2004 neu gyda'r Rheoliadau perthnasol e.e. nid oedd y Rhybudd Talu Cosb neu ddogfen arall yn cynnwys yr wybodaeth angenrheidiol; nid yw'r cyngor wedi ymateb i her neu wedi ymateb yn rhy hwyr.
D. Mae'r Gorchymyn, yr honnir sydd wedi'i dramgwyddo gyda'r cerbyd dan sylw, yn annilys.
Mae'r Gorchymyn sy'n rheoleiddio parcio yn annilys neu'n anghyfreithlon.
E Cafodd y rhybudd talu cosb ei gyflwyno drwy'r post gan fod y cyngor yn dweud y cafodd y swyddog gorfodaeth sifil ei rwystro rhag gosod y Rhybudd Talu Cosb ar y cerbyd neu ei gyflwyno i'r person ond ni ddigwyddodd hynny.
Nid yw hyn yn berthnasol pan gafodd y rhybudd talu cosb ei gyflwyno drwy'r post ar ôl dal gan gamera neu gan fod y cerbyd wedi ei yrru i ffwrdd.
F Doeddwn i erioed yn berchen y cerbyd o dan sylw neu roeddwn i wedi peidio â bod yn berchennog arno ar ddyddiad y tramgwyddiad honedig neu deuais yn berchennog arno ar ôl dyddiad y tramgwyddiad honedig.
G Gadawyd y cerbyd yn y lle o dan sylw gan berson a oedd mewn gofal o'r cerbyd heb ganiatâd y perchennog.
E.e. roedd y cerbyd wedi'i ladrata. Rhoddwch gyfeirnod trosedd os oes un ar gael.
H Rydym yn gwmni llogi cerbydau, roedd y cerbyd wedi'i logi o dan gytundeb
llogi ac roedd y llogwr wedi llofnodi datganiad yn cydnabod atebolrwydd am
unrhyw Rybudd Talu Cosb yn ystod y cyfnod llogi.
Dylech gynnwys y cytundeb llogi y dibynnir arno.
I. *Ni ddylai'r Rhybudd i'r Perchennog fod wedi'i anfon gan fod y gosb eisoes wedi'i thalu:
(i) yn llawn; neu
(ii) ar y gyfradd ddisgownt o fewn y cyfnod a nodir ym mharagraff
1(h) o'r Atodlen i'r Rheoliadau Gorfodaeth Sifil o Dramgwyddiadau Parcio
(Rhybuddion Talu Cosb, Gorfodaeth a Dyfarnu) (Cymru) 2008.
* Yn ychwanegol, a oes un o'r seiliau hyn yn berthnasol ai peidio, os ydych o'r farn fod rhesymau cymhellol pam nad ddylech chi dalu'r gosb, eglurwch nhw yma.
Bydd y Dyfarnydd yn ystyried y rhesymau hyn. Ni fydd y Dyfarnydd yn caniatáu'r apêl oni bai fod un o'r seiliau statudol yn berthnasol, ond gall argymell, ond nid gorchymyn, i'r cyngor ddiddymu'r gosb (*yn berthnasol mewn achosion lle cafodd y Rhybudd Talu Cosb ei gyflwyno ar neu ar ôl 31 Mawrth 2008 yn unig).
Tystiolaeth
Does dim rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth ond gallwch wneud hynny os ydych o'r farn y byddai hynny'n helpu eich apêl. Gall tystiolaeth gynnwys ffotograffau, tocynnau talu ac arddangos, mapiau, cynlluniau, nodiadau danfon, llythyrau neu ddatganiadau gan dystion.
Anfonwch eich tystiolaeth gynted â bo modd ond peidiwch ag oedi gyda'r ffurflen hon. Os nad yw eich tystiolaeth ar gael ar hyn o bryd, gallwch ei anfon yn nes ymlaen. Rhaid i chi gasglu eich tystiolaeth eich hun a'i anfon at y Tribiwnlys. Ni fydd y Tribiwnlys yn casglu tystiolaeth nac yn cysylltu gyda thystion ar eich rhan.