Cyflwyno Apêl Ar-lein

Mae'r gallu i gyflwyno Hysbysiad o Apêl ar-lein ar hyn o bryd yn rhan o gynllun prawf a gynhelir ar y cyd â nifer bach o gynghorau.

Ar hyn o bryd dim ond Hysbysiadau o Apêl yn erbyn Rhybuddion o Ddirwy mewn perthynas â throseddau parcio sydd â'r rhagddodiaid AC, AD, AL, AQ, AT, AV, AX, BB, BF, BG, BH, BI, BM, BN, BQ, BR, BS, BW, CG, CJ, CM, CT, CX, DE, DH, DI, DJ, DP, DU, EB, EI, EL, EV, EW, FA, FB, FH, FP, FW, GH, GQ, GW, HI, HJ, HV, IW, JV, KB, KB, KO, KQ, KX, LV, MC, MQ, MR, MS, MW, ND, NP, NQ, NU, OD, OL, OX, PA, PL, RC, RF, RJ, RL, RP, RQ, RR, SA, SF, SJ, SN, SQ, SZ, TB, TC, TD, TE, TG, TJ, TN, TQ, TR, TY, UB, UW, VA, WD, WG, WH, WR, WU, WX, WY, WZ, XD, XQ, XS, YC, YM, YN, YS, YW, ZF, ZW, ZX, a Rhybuddion o Ddirwy sydd â'r rhagddodiad BB, BH, BN, LV, MC, OX, SQ, mewn perthynas â throseddau lonau bysus, y gellir eu cyflwyno ar-lein.

Ein bwriad yw cynnig y cyfleuster hwn i bob apelwr maes o law.

Os ydych am apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor gallwch gwblhau a chyflwyno eich Hysbysiad o Apêl gyda'r dyfarnwr annibynnol ar-lein.

Union Jack English

Welsh Flag Cyflwyno Apêl Ar-lein

Er mwyn apelio i'r dyfarnwr annibynnol ar-lein mae'n rhaid eich bod wedi derbyn Hysbysiad Gwrthod Cynrychiolaethau'r cyngor. Ar yr Hysbysiad Gwrthod Cynrychiolaethau bydd eich Rhif Adnabod Personol (PIN). Gweler manylion pellach y broses apeliadau ar wefan y Tribiwnlys Cosbau Traffig yn www.trafficpenaltytribunal.gov.uk.

Bydd canllawiau ar y sgrîn yn eich helpu i gwblhau a throsglwyddo'r ffurflen apêl ac fe fyddwch yn derbyn neges e-bost awtomatig gan y Tribiwnlys Cosbau Traffig yn cadarnhau bod eich apêl wedi cyrraedd.

Os nad ydych am wneud apêl ar-lein dylech gwblhau'r Hysbysiad o Apêl a'i hanfon drwy'r post i'r Tribiwnlys Cosb Draffig.

Os ydych yn ei chyflwyno yn electronig neu drwy'r post, mae gennych 28 niwrnod yn dechrau wrth dderbyn penderfyniad y cyngor er mwyn cyflwyno apêl. Gellir ond cyflwyno apeliadau a wneir y tu allan i'r dyddiad cau drwy'r post ac mae'n rhaid i chi esbonio ar y ffurflen pam mae eich apêl yn hwyr.

Gallwch apelio yn erbyn uchafswm o bum Rhybudd o Ddirwy am bob cyflwyniad ar-lein. Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn mwy na phum Rhybudd o Ddirwy mae'n rhaid i chi gyflwyno apêl arall ar-lein gan ddefnyddio'r un PIN.

PWYSIG

Gallwch gyflwyno eich apêl naill ai ar-lein neu drwy'r post. Peidiwch ag anfon yr un apêl i'r Tribiwnlys Cosbau Traffig gan ddefnyddio'r ddau ddull.